Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle
Wedi'i bweru gan
HelpwrArian

Bydd y gyfrifiannell hon yn rhoi amcangyfrif i chi o faint y byddwch chi a'ch cyflogwr yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn.

I ddod o hyd i'r union swm, gwiriwch eich slip cyflog neu siaradwch â'ch cyflogwr. Er gwybodaeth ac arweiniad yn unig y mae'r teclyn hwn.

1. Eich manylion

Pam mae angen eich oedran arnom?

Mae arnom angen gwybod eich oedran er mwyn i ni fedru cyfrifo’r cyfraniadau’n gywir – mae’r rheolau’n amrywio ychydig yn seiliedig ar oed. Eglurir hyn yn y llythyr a gewch gan eich cyflogwr am gofrestru awtomatig.

Mwy o wybodaeth am eich cyflog

Rhowch eich cyflog cyn i’r dreth nag unrhyw ddidyniadau eraill gael eu tynnu. Gelwir hyn yn gyflog gros.Os oes gennych fwy nag un swydd, bydd raid i chi roi pob cyflog ar wahân.

Dewiswch sut mae eich cyflogwr yn cyfrannu

Gall eich cyflogwr ddewis os yw am wneud cyfraniadau ar ran o'ch cyflog (a elwir yn enillion cymhwyso) neu ar eich cyflog llawn. I gael gwybod pa un, bydd angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr.

Mwy o wybodaeth am eich cyflog

Dyma’r rhan o’ch cyflog blynyddol fydd yn cael ei defnyddio i gyfrifo eich cyfraniad pensiwn dan gofrestru awtomatig. Sef eich enillion cyn treth (hyd at derfyn uchafswm o £50,270 y flwyddyn) - tynnu’r trothwy enillion isaf o £6,240.

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 011 3797 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.