Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle
Os ydych yn gyflogai mae'n debyg eich bod wedi'ch ymrestru'n awtomatig mewn pensiwn gan eich cyflogwr. Defnyddiwch ein cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle i'ch helpu i ddarganfod faint sy'n cael ei dalu fewn i'ch pensiwn.
Rhaid talu canran benodol o'ch cyflog fewn i'ch pensiwn fel isafswm cyfreithiol - ac mae'n rhaid i chi a'ch cyflogwr dalu i mewn iddo.
Byddwn yn eich helpu i weithio allan faint:
- bydd eich cyflogwr yn talu i mewn i'ch pensiwn
- rydych chi'n talu i mewn i'ch pensiwn
- rhyddhad treth rydych yn ei gael ar eich cyfraniadau pensiwn.
Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?
Ffoniwch ni am ddim ar 0800 011 3797 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.
Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.
Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.