Neidio at y cynnwys

Darganfod eich math o bensiwn

Defnyddiwch ein teclyn am ddim i wirio pa fath o bensiwn sydd gennych, er mwyn deall sut mae’n gweithio a pha opsiynau sydd ar gael ar eich cyfer.

Bydd ein teclyn cyflym a hawdd ei ddefnyddio yn:

  • gofyn cwestiynau syml i chi am eich pensiwn.
  • dweud wrthych y math o bensiwn mae'n debygol o fod.

Gallwch ddefnyddio'r teclyn ar gyfer pob un o'ch pensiynau. Dim ond tua munud y mae'n ei gymryd i'w gwblhau.

Dylid defnyddio’r teclyn hwn fel canllaw. Gall eich darparwr pensiwn gadarnhau’n union pa fath o bensiwn sydd gennych a’i nodweddion.

I gael rhagor o gymorth a gwybodaeth am y gwahanol fathau o bensiynau, gweler ein canllawiau esbonio pensiynau.

Angen help? Sgwrs fyw gyda’n harbenigwyr (opens in a new window)

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrs. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.